Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 19 Mehefin 2025

Amser: 10.32 - 12.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15546


Preifat, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Alun Davidson, Clerc

Beth Hales, Dirprwy Glerc

Eraill yn bresennol:

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a

Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a

Deddfwriaeth

Helen Finlayson, Clerc ar gyfer Adolygiad Gweithdrefnol

Deddfwriaethol

Lisa Griffiths, Clerc Gweithdrefnau

Adam Vaughan, Ail Glerc

Josh Hayman, Ymchwilydd

Catrin Davies, Llywodraeth Cymru

Anthony Cooper, Llafur Cymru

Jennifer Ramsay, y Ceidwadwyr Cymreig

Francess Ifan, Plaid Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds a David Rees.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2025

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

</AI2>

<AI3>

3       Trothwyon y rheolau sefydlog

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papurau yn ymwneud â throthwyon Rheolau Sefydlog a'r argymhellion a wnaed yn flaenorol gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol.

Trafododd yr Aelodau’r trothwy ar gyfer grwpiau a grwpiadau gwleidyddol a chytunwyd i ddychwelyd at hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunwyd, at ddibenion rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes, y gellir tybio trothwy o bum aelod ar gyfer grwpiau a grwpiadau gwleidyddol am y tro.

Ni fyddwn yn ceisio penderfyniad terfynol ar y trothwy ar gyfer grwpiau a grwpiadau gwleidyddol nes bod ystyriaeth bellach wedi'i rhoi i oblygiadau ehangach, a’n bod wedi ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar bob newid arall i drothwyon y Rheolau Sefydlog a gafodd eu hargymell gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol.

</AI3>

<AI4>

3.1   Trothwyon Rheolau Sefydlog: Argymhellion Pwyllgor Senedd y Dyfodol

</AI4>

<AI5>

3.2   Y Trothwy ar gyfer Enwebu Cadeiryddion Pwyllgorau: Argymhellion Pwyllgor Senedd y Dyfodol

</AI5>

<AI6>

4       Categorïau o Aelodau

Cytunwyd ar y newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog, yn amodol ar rai mân welliannau.

Nododd y Llywydd yr angen i gynnal adolygiad golygyddol o’r Rheolau Sefydlog tua diwedd rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes, o ystyried nifer y newidiadau sy'n debygol o gael eu cynnig i'r Rheolau Sefydlog.

</AI6>

<AI7>

4.1   Categorïau o Aelodau: Adroddiad Drafft ar Ddiwygio Rheolau Sefydlog

</AI7>

<AI8>

4.2   Diwygio Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau

</AI8>

<AI9>

5       Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Dywedodd Paul Davies, er nad oedd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â'r model arfaethedig o rannu swyddi cadeirydd pwyllgor, gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio model Cadeirydd ac Is-gadeirydd, maent yn cydnabod bod y mwyafrif o blaid y cynigion ac felly byddent yn gweithio’n adeiladol i’w datblygu.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cynigion ar gyfer treial rhannu swyddi cadeirydd pwyllgorau, ac y dylai'r Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn gweithredu’r treial gyfyngu’r treial i uchafswm o dri phwyllgor.

</AI9>

<AI10>

5.1   Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Cytuno ar y cynnig terfynol

</AI10>

<AI11>

6Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Ni chytunodd y Trefnydd â'r opsiynau a argymhellwyd yn y papur cysylltiedig, a chynigiodd opsiynau eraill.

Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal trafodaethau pellach rhwng Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru cyn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI11>

<AI12>

6.1   Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Derbyniadwyedd gwelliannau 'union debyg'

</AI12>

<AI13>

7       Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi'r dystiolaeth a gyflwynwyd, ochr yn ochr â llythyr a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

</AI13>

<AI14>

7.1   Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cyhoeddi tystiolaeth

</AI14>

<AI15>

7.2   Atodiad 1: Materion a godwyd yn ystod sesiwn galw heibio i Aelodau

</AI15>

<AI16>

7.3   Atodiad 2: Materion a godwyd gan Aelodau a swyddogion a chanddynt brofiad o Filiau Aelod

</AI16>

<AI17>

7.4   Atodiad 3: Materion a godwyd gan Fforwm y Cadeiryddion

</AI17>

<AI18>

8       Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Ymddiheurodd Paul Davies y bydd yn absennol ar gyfer y cyfarfod nesaf ddydd Iau 26 Mehefin 2025. Bydd Darren Millar yn ymuno â’r cyfarfod fel dirprwy.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn rhithwir.

</AI18>

<AI19>

8.1   Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Biliau Aelod

</AI19>

<AI20>

8.2   Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: canlyniadau Biliau Aelod

</AI20>

<AI21>

8.3   Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cymharu gweithdrefnau Biliau Aelodau

</AI21>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>